Y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd
Yn y Gemau, fe welodd sefydlydd y Gemau Olympaidd, Pierre de Coubertin, gyfle delfrydol i ddatblygu set o egwyddorion cyffredinol, neu werthoedd, a ellid eu cymhwyso at addysg ac at gymdeithas yn ei chyfanrwydd, yn ogystal ag at chwaraeon ei hun.
Gellir dehongli'r Gwerthoedd hyn fel:
•parch - chwarae teg; adnabod eich ffiniau personol; a chymryd gofal o'ch iechyd a'r amgylchedd.
•rhagoriaeth - sut i roi o'ch gorau, ar y maes chwarae neu mewn bywyd; cymryd rhan; a chamu ymlaen yn ôl eich amcanion eich hun.
•cyfeillgarwch - sut, trwy chwaraeon, i ddeall ein gilydd er gwaethaf unrhyw wahaniaethau.
Caiff y Gwerthoedd Paralympaidd eu seilio ar hanes y Gemau Paralympaidd a thraddodiad chwarae teg a chystadlu'n anrhydeddus mewn chwaraeon.
Y rhain yw:
•dewrder
•phenderfyniad
•ysbrydoliaeth
•cydraddoldeb
Mae Bydd Barod, rhaglen addysgol Llundain 2012, wedi ei seilio ar y Gwerthoedd hyn.
Beth yw eich barn chi am y Gwerthoedd hyn - allan nhw fod yn ddefnyddiol yn eich bywyd chi?
Dewiswch un o'r Gwerthoedd a rhestrwch dair ffordd y gallai eich helpu i wneud dewisiadau pwysig ynglŷn â ffordd o fyw a dewisiadau ynglŷn â gyrfa.













