• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Eich brîff

Eich brîff

Pobl ifanc yn trafod

Mae'r Olympic Development Authority (ODA) eisiau 'arddangos' ei arferion i'r diwydiant adeiladu.

Maent yn gosod meincnod newydd i'r diwydiant - ac maent am gymell llawer rhan o'r diwydiant adeiladu i efelychu'r arferion hyn.

Ar gyfer hyn, maent yn llunio cyfres o ddigwyddiadau (sioeau teithiol) i'r rheini sydd yn y diwydiant adeiladu. Gall y rhai a wahoddir 'ddewis a chymysgu' o ddetholiad o sgyrsiau a chyflwyniadau. Byddant hefyd yn gallu cael ymddiddan anffurfiol â phobl sy'n gyfarwydd â'r hyn a gyflawnodd yr ODA, neu afael mewn taflenni a phamffledi sy'n berthnasol i'w maes hwy o fewn y diwydiant.

Gofynnwyd i chi baratoi deunyddiau ar gyfer y sioeau teithiol hyn. Dylai'r digwyddiad gynnwys gwahanol gamau'r adeiladu i ymorol bod cymaint o bobl o'r diwydiant ag sy bosib yn teimlo'n gynwysiedig. Dylai'ch deunyddiau ar gyfer y sioe deithiol gynnwys:

Cyn-adeiladu

  • Dylunio - pa elfennau dylunio cynaliadwy a gynhwyswyd, camau i ymorol y perfformiad gorau i'r adeilad, ffynhonell a math o ddeunyddiau a ddefnyddiwyd (cynaliadwy neu beidio)
  • Cynllunio logisteg - sut y cludir y deunyddiau i'r safle ac oddi yno, pa ystyriaeth roddwyd i breswylwyr/ysgolion/cyfleusterau gerllaw, cynllunio iechyd a diogelwch.

Adeiladu

  • Paratoi'r safle - yn cynnwys dymchwel, clirio'r safle, delio â llygredd, cydymffurfio â gofynion amgylcheddol (EIA)
  • Gwaith tir - yn cynnwys gosod sylfeini, ffyrdd, traeniau (hel dŵr glaw a draenio dŵr budr) a chyfleustodau
  • Uwchadeiladawaith - mae hwn yn cynnwys popeth uwchlaw'r tir, yn cynnwys cludo pŵer ac adfywio, a'r camau gymerwyd i leihau'r defnydd o bŵer.

Beth sy'n rhaid i chi ei wneud

Gweithiwch mewn timau bychain i gynllunio digwyddiad undydd y gellir ei gynnal trwy'r wlad. Amcan y diwrnod fydd defnyddio Gemau Llundain 2012 i 'arddangos' arferion gorau cynaliadwyedd ar gyfer pob un o'r camau cynadeiladu ac adeilau a amlinellir uchod.

Mae'r ODA wedi darparu ar eich cyfer lawer o adnoddau ar gyfer yr holl gamau adeiladu.
Fe all y byddwch am ganolbwyntio ar un 'cam' neu archwilio nifer. Penderfynwch hyn gyda'ch athro/darlithydd. Yn ddelfrydol, dylid cynnwys pob un o'r saith cam adeiladu a amlinellir uchod yn y sioe deithiol fel y gall gymaint ag y bo'r modd o bobl fod yno.

I'r sioe deithiol fod yn ddiddorol, bydd angen i chi ddarparu amrywiaeth o ddeunyddiau i'r cynrychiolwyr afael ynddynt a'u darllen, gwrando arnynt neu edu cludo ymaith/ Mae'r rhestr ganlynol yn rhoi enghreifftiau o'r math o 'ddeunyddiau' y dymunwch eu cyflwyno:

  • Adroddiadau
  • Arddangosfeydd
  • Posteri, taflenni, pamffledi, pecynnau gwybodaeth
  • Cyflwyniadau PowerPoint gyda nodiadau
  • Cyflwyniad Parhaus PowerPoint a all roi gwybodaeth gyfredol
  • Tudalennau gwefan
  • Nodiadau ar gyfer sesiynau holi ac ateb
  • Taflenni/dalennau gwybodaeth/dogfennau briffio.

Gweithgareddau estyn

  • Archwiliwch y Codau Ymarfer a'r gofynion rheoliadol y mae'n ofynnol i'r ODA gydymffurfio â hwy
  • Rhowch enghreifftiau o unrhyw safleoedd eraill a welsoch neu y clywsoch am lefelau tebyg o ymarfer da
  • Rhowch enghreifftiau o'r mannau na chafwyd ymarfer da ac amlinellwch ganlyniadau'r arferion gwael hyn.

Adnoddau i'ch helpu gyda'r her

Chwiliwch am adnoddau yma