• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Paratoi ar gyfer cyfweliad

Paratoi ar gyfer cyfweliad

Pobl ifanc yn meddwl am syniadau yn ystod gweithdy

Mae paratoi a pherfformio yn hanfodol i'r rhai hynny sy'n ceisio llwyddiant yn Llundain 2012. Ond mae'r ddwy P yma hefyd yn berthnasol i nifer o sefyllfaoedd eraill yn ein bywydau hefyd. Cymerwch gyfweliadau er enghraifft, os methwch ar un P mae'n debyg y byddwch yn methu'n gyfan gwbl.

Pa lwybr bynnag fo myfyrwyr yn bwriadu ei ddilyn arôl mynd heibio 16 oed, mae'n debygol o gynnwys cyfweliad, naill ai am waith neu am addysg uwch. Dyna pam fod pecyn paratoi a pherfformio 2012 ar gyfer cyfweliadau yn darparu ymarferiadau sy'n helpu myfyrwyr i wneud eu gorau glas, yn eu hannog i arddangos llawer o'r Gwerthoedd a hyrwyddir gan y Mudiad Olympaidd a Pharalympaidd, megis rhagoriaeth, penderfyniad ac ysbrydoliaeth.

Felly Bydd Barod gyda thaflen ymarfer paratoi a pherfformio mewn cyfweliad. Mae'n cynnwys:

  • Paratoi 2012: 20 cwestiwn y gall y bydd gofyn i chi eu hateb mewn cyfweliad; a 12 camgymeriad i'w hosgoi pan yn eu hateb.
  • Perfformiad 2012: y ffug-gyfweliad 20 munud 12 eiliad

Lawrlwythwch yr ymarferiadau paratoi a pherfformio
Interview preparation and performance exercise sheet-542.36kb

Mae technegau cyfweld da yn creu argraff dda ac mae argraff dda yn bwysig iawn, nid yn unig wrth geisio am swydd neu gwrs. Gellir defnyddio'r un technegau mewn seminarau, cyfarfodydd, ac wrth rwydweithio - y cyfan yn ddigwyddiadau rheolaidd ym mywyd gwaith.
Dysgwch fwy am gyfleoedd menter a gynhelir gan bartneriaid Llundain 2012.

A chofiwch roi gwybod i Lundain 2012 sut hwyl yr ydych yn ei gael ar ddiweddaru'ch Blog Bydd Barod.