Adeiladu eich brand eich hun
Dychmygwch eich bod wedi cael comisiwn i greu enw, logo a phroffil brand ar gyfer gŵyl gyfeillgarwch ryngwladol newydd. Bydd yr ŵyl yn ddigwyddiad wythnos gyfan yn cynnwys cerddoriaeth, theatr a sgyrsiau gan awduron a phersonoliaethau.
Bydd y prosiect yn egluro i chi rai o gamau pwysig brandio ac yn eich helpu i gwblhau'ch tasgiau ar hyd y fordd.
Defnyddiwch frand Llundain 2012 fel ysbrydoliaeth ac ewch ati!
Beth yw brand a sut mae'n creu hunaniaeth unigryw?
Ceisiwch ysbrydoliaeth: darllenwch am frand Llundain 2012 ac archwiliwch frandiau eraill hefyd.Ewch!
Prosiect 1 - Defnyddiwch y daflen waith i grynhoi yr hyn sy'n bwysig am frand trwy gwblhau rhai ymarferion byr mewn parau gan feddwl am set o werthoedd a gweledigaeth yn ogystal ag enwau posibl ar gyfer eich gŵyl gyfeillgarwch.
Lawrlwytho prosiect 1
What's in a brand worksheet 1-663.72kb
Prosiect 2 - Defnyddiwch y daflen waith i wneud ychydig o ymchwil cynulleidfa trwy anfon holiadur am eich syniadau brandio. Byddwch hefyd yn dysgu sut i ddadasoddi'r atebion a'u defnyddio yn eich gwaith.
Lawrlwytho prosiect 2
What's in a brand project 2-649.64kb
Sut mae logo yn creu cymeriad gweledol cryf i frand
Ceisiwch ysbrydoliaeth - gan liwiau, delweddau a ffontiau brand Llundain 2012. Darllenwch am sut y'u crëwyd a'r hyn a gynrychiolant.Ewch!
Prosiect 3 - defnyddiwch y daflen waith i ddadansoddi amrywiaeth o logos ac ystyriwch sut y maent yn weledol drawiadol. Archwiliwch liw, ffont a steil.
Lawrlwytho prosiect 3
What's in a brand project 3-340.19kb
Prosiect 4 - Crëwch eich logo eich hun ar gyfer eich gŵyl gyfeillgarwch trwy gael ambell air o gyngor gan y tîm a greodd logo Llundain 2012.
Lawrlwytho prosiect 4
What's in a brand project 4-281.28kb
Sut i gyflwyno'ch brand i eraill
Pan fyddwch wedi bathu enw ar gyfer eich gŵyl ynghyd â logo ar sail eich gwerthoedd a'ch ymchwil cynulleidfa, byddwch yn barod i gyflwyno'ch syniadau i eraill - ceisiwch y cyngor gorau ar roi cyflwyniad gwirioneddol dda at ei gilydd.
Lawrlwytho prosiect 5
What's in a brand project 5-665.46kb
Lawrlwytho'r holl brosiectau gyda'i gilydd
What's in a brand (all projects)-2574.64kb













