• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Her D - Effaith ar gymunedau lleol.

Her D - Effaith ar gymunedau lleol.

Mae Gemau Llundain 2012 eisoes wedi newid Dwyrain Llundain am byth. Gwneir llawer i helpu'r gymuned leol gyda'r pontio. Bydd mewnlifiad o 11 miliwn o ymwelwyr yn ystod chwe wythnos y Gemau yn cael effaith fawr ar y gymuned leol. Ac wedi'r Gemau, gall rhai lleoliadau barhau i apelio fel atyniadau twristaidd ac felly gall y bydd yr effaith ar y gymuned leol yn parhau.

Llu8ndain yw'r ddinas cynnal gemau'r haf gyntaf i wreiddio cynaliadwedd yn nhrefniadau'i Gemau Olympaidd a Pharalympaidd. Mae hyn yn feincnod y byddai Rio de janeiro yn hoffi ei hefelychu.

Amlinellwyd y 12 amcan datblygiad cynaliadwy ar dudalen tri o Diweddariad cynaliadwyedd rhyngweithiol

Gofynnwyd i chi amlinellu'r effeithiau ar y gymuned leol (o fewn y bwrdeistrefi cynnal) a'r mesurau hynny a gymerwyd i uchafu eu heffaith cadarnhaol a lleihau eu heffaith negyddol.

Bydd angen i chi ymchwilio:

  • Effeithiau lleol Gemau Llundain 2012 - yn ystod y cyfnod adeiladu a chwe wythnos y Gemau 2012.
  • Effeithiau economaidd; er enghraifft, newidiadau mewn incwm lleol, newidiadau mewn prisiau tai, newidiadau mewn swyddi lleol, mathau gwahanol o swyddi angen gwahanol sgiliau.
  • Effeithiau amgylcheddol; er enghraifft, mannau gwyrddion, dyfrffyrdd.
  • Effeithiau tymor byr a thymor hirach.
  • Y mesurau a gymerwyd i ymorol yn uchefir effeithiau cadarnhaol Gemau Llundain 2012 a lleihau'r effeithiau negyddol (er enghraifft, ymgynghoriadau, cylchlythyrau, ac ymwneud y gymuned leol).

Dewiswch sut yr hoffech chi gyflwyno'ch gwybodaeth i gynrychiolwyr Rio de Janeiro. Gallech greu arddangosfa, llunio cyflwyniad, dylunio gwefan neu ysgrifennu adroddiad.
Gallwch ddewis canolbwyntio ar weddau penodol o gynaliadwyedd - neu weithio ag eraill i gynhyrchu adroddiad cynhwysfawr.

Adnoddau ar effeithiau ar y cymunedau lleol

I'ch helpu gyda'ch ymchwil, mae ODA wedi darparu ar eich cyfer ddolennau i adnoddau gyda throsolwg o'u cynnwys:

Gweithgareddau estyn

  • Gwyliwch flogiau fideo ac awgrymwch bobl benodol o'r ODA y dylai'r ddirprwyaeth eu cyfarfod a dwedwch pam.
  • Archwiliwch sut y defnyddir y Parc Olympaidd yn dilyn Gemau 2012. Beth fydd ei apêl i ymwelwyr?
  • Sut mae'r ODA wedi ymorol yr addasir lleoliadau a ddyluniwyd ar gyfer cyfnod y Gemau ar gyfer defnydd etifeddiaethol.