• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Her A - Cynllunio Taith

Her A - Cynllunio Taith

Her A - Adnoddau ar gyfer cynllunio taith

Derbyniasoch yr e-bost canlynol:

Bydd 10 cynrychiolydd o Gemau Rio de Janeiro 2016 yn cyrraedd Heathrow Llundain ddydd Mercher nesaf y 15fed.
Manylion hedfan:
Mercher 15fed Gadael Rio de Janeiro 1935 awr (Taith BG 1234)
Iau 16eg Cyrraedd Heathrow Llundain 1435 awr.
Sadwrn 18fed Gadael Heathrow Llundain 2055 awr (Taith BG 6789)
Sul 19eg Cyrraedd Rio de Janeiro 1435 awr.
Maent am gael golwg fanwl ar y lleoliadau hyn:

  • Stadiwm Olympaidd.
  • Canolfan Chwaraeon Dŵr.
  • Felodrom.
  • IBC/MPC.
  • Pentref yr Athletwyr.
  • Canolfan Ynni.
  • Parcdiroedd.

Fe ddylech:

  • Baratoi rhaglen (gydag amseriadau) fel y gall cynrychiolwyr gael amser priodol ym mhob lleoliad.
  • Cynlluniwch y trefniadau teithio. Rhaid i hyn gynnwys trosglwyddiadau a chludiant nôl a blaen i ac o'r maes awyr ar gyfer eu arhosiad. Gellir trosglwyddo cynrychiolwyr mewn coets ar gyfer rhan o'u harhosiad - ond mae angen iddynt hefyd gael profiad o'r gwelliant yn y systemau teithio cyhoeddus; er enghraifft, uwchraddio Gorsaf Stratford, estyniad DLR a gwelliannau i King's Cross/St Pancras. Cynhwyswch rhywfaint o gludiant cyhoeddus yn eich cynllun teithio
  • Cynigiwch dri gwesty gwahanol mewn lleoliadau addas ar gyfer eu harhosiad tair noson. Hoffai'r gynrychiolaeth weld gwahanol rannau o Lundain ac felly maent wedi gofyn am gael aros yn agos i leoliadau Llundain 2012 nad ydynt ar y Parc Olympaidd
  • Awgrymwch fwytai
  • Ymchwiliwch i adloniant min nos y gellir ei awgrymu i gynrychiolwyr er gwella eu mwynhad o Lundain.

Adnoddau ar gyfer cynllunio taith

I'ch helpu gyda'ch ymchwil, mae ODA wedi darparu ar eich cyfer ddolennau i adnoddau gyda throsolwg o'u cynnwys: