• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Her B - Paratowch Nodiadau'r Tywysydd

Her B - Paratowch Nodiadau'r Tywysydd

Pobl ifanc o Tower Hamlets yn mynychu lansiad yr adiZone

Caiff yr ymwelwyr o Rio deithiau o amgylch y lleoliadau hyn a bydd tywysydd gyda hwy gydol eu cyfnod yn Llundain.
Bwriedir eu hebrwng i saith o'r lleoliadau Olympaidd a Pharalympaidd:

  • Stadiwm Olympaidd.
  • Canolfan Chwaraeon Dŵr.
  • Felodrom.
  • IBC/MPC.
  • Pentref yr Athletwyr.
  • Canolfan Ynni.
  • Parcdiroedd.

Os gwelwch yn dda paratowch nodiadau i'r tywysydd a fydd yn gweithio gyda'r cynrychiolwyr. Bydd arno/arni angen:

  • Gwybodaeth am bob lleoliad - ffeithiau allweddol a gwybodaeth 'arbenigol' yn ogystal â storiau diddorol i'w cadw'n ddiddan; er enghraifft, defnyddio hebog yn y stadiwm i reoli niferoedd y colomennod!
  • Mae gan y cynrychiolwyr ddiddordeb neilltuol mewn cynaliadwyedd - felly, byddai unrhyw wybodaeth am ddylunio cynaliadwy neu am ddefnyddio deunyddiau cynaliadwy yn neilltuol o berthnasol.
  • Gan fod y tywysydd hefyd ar y goets gyda'r cynrychiolwyr yn teithio o'u gwesty i'r Parc Olympaidd a rhwng rhai o'r lleoliadau, dylech hefyd gynnwys unrhyw wybodaeth ynglŷn â'r prif atyniadau twristaidd a welant ar y ffordd.
  • Bydd y cynrychiolwyr yn holi am y gwelliannau cludiant a wnaed yn cynnwys y datblygiadau a'r gwelliannau yn King's Cross/St Pancras, DLR a gorsaf Stratford. Rhowch wybodaeth ffeithiol i'r tywysydd ynglŷn â'r hyn sydd wedi digwydd.
  • Gwybodaeth am ODA a LOCOG

Adnoddau ar gyfer nodiadau tywys

I'ch helpu gyda'ch ymchwil, mae ODA wedi darparu ar eich cyfer ddolennau i adnoddau gyda throsolwg o'u cynnwys:

  • Fideo am Lanhau y Parc Olympaidd - a ddechreuwyd yn 2007, sut yr arferai'r safle fod - yn cynnwys mymryn o hanes y safle, y diwydiant oedd yno a'r gwastraff adawyd ar ôl i'w glirio.
  • Fideo am Orsaf Stratford yn dangos niferoedd o bobl yn teithio, sut yr oedd, beth sy'n digwydd a'i chyfraniad i'r gwaddol.