• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Ewch!

Ewch!

Yn y blociau cychwyn

Syniadau i roi cychwyn i chi ar eich taith at rwydwaith Bydd Barod.

1. Sefydlwch grŵp gweithredu Bydd Barod a byw yn ôl y Gwerthoedd

  • Defnyddiwch Gyngor Myfyrwyr neu Undeb Myfyrwyr i sefydlu grŵp gweithredu Bydd Barod i gymryd cyfrifoldeb yn y cais. Gallech ddechrau gyda chyn lleied â phedwar neu chwech ohonoch, gyda phob un ohonoch yn ymgymryd â rôl gwahanol megis Rheolwr Prosiect, Dadansoddwr Data, Blogiwr a Rheolwr Cyhoeddusrwydd. Ceir mwy o wybodaeth a chyngor ar gynnal grŵp gweithredu yn y cyfnod 14-16. Cymerwch olwg arno.
  • Gallech hefyd ethol cynrychiolwyr o wahanol grwpiau oedran neu gyrsiau i fod yn gyfrifol am Werthoedd penodol, ac am arwain y cynllunio a chynnal digwyddiadau arbennig.

Dyma rai enghreifftiau o'r hyn y gallai gwahanol 'grwpiau Gwerthoedd' a chyrsiau ei wneud:

Cyfeillgarwch

  • Trefnwch arddangosfa gelf sy'n dathlu cyfeillgarwch yn yr ysgol neu goleg a thu allan. Defnyddiwch wefan eich ysgol i hysbysebu'r arddangosfa, a rhowch wahoddiad i fyfyrwyr o'r ysgol/coleg cyfan i greu darn o waith celf ar ei chyfer.
  • Gwnewch gysylltiadau â choleg neu ysgol uwchradd lleol. Gall adran Map y wefan hon roi syniadau pellach i chi ynglŷn â'r mathau o brosiectau y gallech ymgymryd â hwy, a'ch helpu i feddwl am ba ysgol neu goleg a all fod yn bartner da.

Parch

  • Yn ystod tiwtorial, cynhaliwch drafodaeth ynglŷn â phwysigrwydd parchu eraill a hunan-barch. Gellid cysylltu hyn â mentrau drwy'r ysgol neu goleg cyfan megis ffyrdd o fyw'n iach (hunanbarch), trosedd cyllyll, fandaliaeth, aflonyddu, a gall gynnwys gweithwyr ieuenctid, yr heddlu ac asiantaethau allweddol eraill.

Rhagoriaeth

  • Lluniwch broffil o fyfyrwyr unigol sydd wedi rhagori mewn maes neilltuol - gall hyn fod mewn chwaraeon, y celfyddydau, ieithoedd neu brosiect cymunedol er enghraifft.
  • Gallai'r proffil fod yn fideo ar-lein ar Amgylchedd Dysgu Rhithwir y coleg, mewn cylchlythyr coleg, ar eich blog neu ar bosteri a osodir o gwmpas y coleg.

Cydraddoldeb

  • Mae canolbwyntio ar gydraddoldeb yn gyfle i ddathlu amrywiaeth diwylliannol myfyrwyr a'ch cymuned leol.

Dewrder

  • Gosodwch dargedau i bob myfyriwr weithio atynt - gall hyn fod yn ymgymryd â champ newydd, bod yn fwy iach ac egnïol neu gychwyn prosiect cymunedol newydd sbon, efallai'n gysylltiedig â'r amgylchedd neu'r celfyddydau er enghraifft. Gellid hyrwyddo y rhain trwy wefan y coleg neu'ch blog a'i fonitro trwy gydol y flwyddyn.

Penderfyniad

  • Lluniwch broffil o fyfyrwyr unigol neu grwpiau o fewn yr ysgol/coleg sydd wedi dangos dycnwch a phenderfyniad - efallai wrth oresgyn anawsterau neu anfantais. Postiwch eu proffiliau ar y blog neu ar ardal arddangos arbennig ee 'Y mis hwn rydym yn enwebu xxx fel y myfyriwr mwyaf penderfynol'. 'Gallech siarad â busnesau lleol ynglŷn â noddi tlws neu gynnig gwobr.

Ysbrydoliaeth

  • Gwnewch ymchwil ar gyfer eich Cymhwyster Prosiect Estynedig (CPE), neu gywerth, ar ffigur ysbrydoledig yr ydych yn ei edmygu. Beth amdano sy'n eich ysbrydoli?
  • Gall eich ffurflen gynnig CPE eich helpu i ddatblygu'ch syniadau a chychwyn cynllunio sut y gallech ymchwilio i'ch ffigur ysbrydoledig. Gall eich goruchwyliwr CPE roi cyngor i chi ar sut i ddilyn ymlaen eich ymchwil.

Gweler isod am ddwy enghraifft o sut y gellid defnyddio'r Gwerthoedd mewn prosiectau penodol

Log Cynhyrchu Prosiect 16-19 cydraddoldeb (31.27 kb)

Log Cynhyrchu Prosiect 16-19 ysbrydoliaeth (32.72 kb)

2. Sefydlwch glwb Bydd Barod

Mae Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 yn gyfle perffaith i sefydlu clwb neu grŵp sy'n hyrwyddo Gwerthoedd y Gemau:

  • parch
  • cyfeillgarwch
  • rhagoriaeth
  • dewrder
  • penderfyniad
  • ysbrydoliaeth
  • cydraddoldeb.

Gall eich clwb fod yn ymwneud â chwaraeon neu gelfyddyd i ddod â grŵp o fyfyrwyr at ei gilydd sy'n ymdrechu i fod y gorau yn eu maes. Neu efallai eich bod eisiau dechrau clwb sy'n hyrwyddo cyfeillgarwch at fyfyrwyr o ysgol neu goleg tebyg mewn gwlad arall, neu glwb sy'n dathlu amrywiaeth y myfyrwyr yn yr ysgol/coleg ac sy'n hyrwyddo parch at ddiwylliannau eraill.

Lawrlwythwch daflen ffeithiau i'ch helpu i sefydlu clwb
Cynnal clwb (16-19 oed) (277.00 kb)