Gemau
Chwaraewch y gemau rhyngweithiol hyn ac archwilio'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd
Ffeil ffeithiau
Lluniau gwych, dyddiadau cofiadwy a llwythi o ffeithiau eraill am y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd.
Stori Mewn Lluniau
Datguddiwch y delweddau cudd yn raddol i weld pa mor gyflym y gallwch baru’r lluniau gyda’r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd.
Gwybod eich Gwerthoedd
Erioed wedi meddwl sut y byddech yn ymateb i rywun dieithr yn eich mysg? Beth fyddech yn ei wneud petai gan eich ffrind gorau broblem hylendid? Datryswch y penblethau yma a rhai eraill bob dydd i weld beth yw eich gradd yn ôl y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd.
Paru'r Sŵn
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng gwn yn cael ei danio a chleddyf cleddyfwr? Mae’r cyfan yn y sŵn a wna camp…
Trac Sain
Tameidiau’n unig ydyn nhw, ond allwch chi baru’r sylwebaeth gyda’r lluniau?
Dewiswch
Beth yw hi am fod – priodas eich cefnder neu wersyll chwaraeon am benwythnos; noson allan gyda’ch ffrindiau neu gyfle i ennill rownd derfynol pencampwriaeth? Mae’n dibynnu i bwy yr ydych yn gofyn… chwaraewch Dewiswch ac arwain yr athletwyr yma drwy ambell i wrthdaro dyrys yn eu dyddiaduron.
Bydd Barod i arwain
Gweithiwch gyda thîm o ffrindiau dychmygol i helpu’ch ysgol fyw yn ôl y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd. Ffurfiwch bwyllgor, cynnal digwyddiadau a gwneud y mwyaf o Gemau Llundain 2012.













