Y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd
Mae ffiniau'r Mudiadau Olympaidd a Pharalympaidd yn estyn y tu hwnt i'r Gemau eu hunain. Anogir athletwyr sy'n perfformio ar y lefel uchaf - neu sy'n ymarfer i gyrraedd yno - i fyw yn ôl set o egwyddorion cyffredin, neu ffyrdd o fyw. Y rhain yw'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd.
Y Gwerthoedd Olympaidd
- cyfeillgarwch
- rhagoriaeth
- parch
Y Gwerthoedd Paralympaidd
- ysbrydoliaeth
- phenderfyniad
- dewrder
- cydraddoldeb
Pa mor berthnasol ydych chi'n ei feddwl yw'r Gwerthoedd hyn i'ch bywyd chi, i fywydau eich ffrindiau a'ch cymuned leol?
A fyddai bywyd yn wahanol o gwbl er enghraifft, petai pobl yr ydych chi yn eu hadnabod yn trin y syniad o barch a chydraddoldeb yn fwy o ddifrif, neu petai pob un ohonoch yn fwy penderfynol o wneud rhywbeth? A oes gan ddewrder ran i'w chwarae yn eich bywyd?













