• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Y Parc Olympaidd a'r Gymuned

Y Parc Olympaidd a'r Gymuned

Dysgwch sut y gweithiodd yr Awdurdod Cyflenwi Olympaidd gyda'r gymuned leol pan oeddynt yn adeiladu'r Parc Olympaidd.

Adnoddau Cit Adeiladu ODA sydd ar gael:

Meddyliwch am effaith safle'r Parc Olympaidd ar y gymuned leol yng nghyd-destun swyddi, tai a hamdden. I gael syniad o'r hyn oedd yno ynghynt, gwyliwch y ffilm 'Olympic Park flythrough 2009'. Mae taflen ODA 'Sgiliau a chyflogaeth' yn rhoi darlun da o'r llawer o swyddi adeiladu a grewyd ar y safle.
Gallwch hefyd ystyried y cyfleoedd eraill ar gyfer pobl leol wrth i'r Gemau nesau, er enghraifft mewn lletygarwch, diogelwch ac ati. Rhannwch yn grwpiau i ymchwilio un o'r meysydd pennaf: swyddi, tai neu hamdden ac yna adrodd yn ôl ar eich canfyddiadau.

Canlyniad

  • Rhowch eich hun yn esgidiau cynrychiolydd o'r ODA y gofynnwyd iddo gyfarfod preswylwyr lleol sy'n awyddus i wybod pa effaith gaiff cael y Parc Olympaidd 'ar stepen eu drws' ar eu bywydau.
  • Paratowch restr o bum cwestiwn y tybiwch y bydd y preswylwyr yn eu gofyn i chi. Gofynnwch iddynt ysgrifennu dau neu dri o atebion pwynt bwled wrth ochr pob cwestiwn.

Estyniad

Canfyddwch sut y deliwyd â chydraddoldeb rhyw yng nghyd-destun cyfleoedd gwaith yn y Parc Olympaidd. Pa swyddi oedd ar gael i ferched a pha gefnogaeth roddwyd iddynt mewn hyfforddiant a chanfod gwaith? Bydd y ddolen ganlynol yn eu helpu Merch mewn Adeiladu .