• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Rhoi Egni i'r Gemau

Rhoi Egni i'r Gemau

Argraff arlunydd o Stadiwm Olympaidd Llundain 2012

Ydych chi erioed wedi meddwl beth yw'r cynlluniau ar gyfer y Parc Olympaidd ar ôl y Gemau Olympaidd? Wel, bydd Pentref yr Athletwyr yn cael ei drawsnewid i fod yn 2,800 o gartrefi newydd, yn cynnwys1,379 o gartrefi fforddiadwy fydd o fudd i lawer o bobl.

Adnoddau Cit Adeiladu ODA sydd ar gael:

Chwiliwch am ddelweddau o'r tri lleoliad a'u lleoli ar gynllun y Parc Olympaidd.
Darllenwch yr wybodaeth am y Lleoliad a thrafodwch y cwestiynau canlynol: (yr atebion mewn bachau).

Canolfan Ddarlledu Ryngwladol/Prif Ganolfan y Wasg (CDdR/PGW)

  • Sut mae'r to concrid anferth wedi cael ei wneud yn 'wyrddach'?

(Mae'r dyluniad yn cynnwys 'to brown' 2,500metr sgwâr o raean a mwsogl i annog infertebrata).

  • Sut y gellir defnyddio adeilad mor enfawr ar ôl y Gemau?

(Bydd y dyluniad yn ddigon hyblyg i alluogi troi'r adeilad yn fan swyddfa).

Pentref yr Athletwyr

  • Sut y defnyddir y Pentref ar ôl y Gemau?

(Fe'i trawsnewidir yn 2,800 o gartrefi newydd, yn cynnwys 1,379 o gartrefi fforddiadwy. Bydd y cymunedau a ddatblygir yn yr ardal ar ôl y Gemau yn cael eu cynnal gan barciau newydd, mannau agored, cysylltiadau cludiant, a chyfleusterau cymunedol).

  • Beth a ddarperir i wneud i'r athletwyr deimlo'n gartrefol?

(Bydd gan y fflatiau preswyl gysylltiad rhyngrwyd ac fe'u cynhelir gan gyfleusterau megis siopau; bwytai; cyfleusterau meddygol, cyfryngol a hamdden ac ardaloedd eang o fannau agored).

Ganolfan Ynni

  • Pa fath o ynni a ddefnyddir?

(Cyflawnir hyn trwy foeler biomas sy'n defnyddio sglodion pren i gynhyrchu gwres, a chyfarpar Combined Cooling, Heat and Power (CCHP) â phŵer nwy naturiol).

  • Sut y caiff treftadaeth ddiwydiannol yr ardal ei hadlewyrchu yn y dyluniad?

(Adnewyddwyd ac ailddefnyddiwyd hen adeiladau'r felin yn Kings Yard).

Canlyniad

  • Sut y mae pob un o'r lleoliadau hyn yn cyfrannu tuag at Gemau Llundain 2012?
  • Dychmygwch eich bod yn rhan o dîm dylunio sy'n paratoi cynnig cychwynol. Mae'n rhaid i chi fraslunio cynllun o'ch safle sy'n cynnwys lleoliadau chwaraeon a lleoliadau 'cefnogi'. Rhaid i'ch cynnig ateb y pwyntiau hyn:
  • Dangoswch sut y bwriadwch ddarparu ar gyfer y wasg fyd-eang.
  • Sut fyddwch chi'n gofalu am gyfforddusrwydd yr athletwyr Olympaidd a Pharalympaidd, eu timau cefnogi a'u swyddogion?
  • Sut fyddwch chi'n darparu ynni i'r safle yn y ffordd fwyaf effeithiol a mwyaf cynaliadwy?

Estyniad

Gwyliwch y ffilm fer ganlynol a rhowch grynodeb o bwysigrwydd dylunio ar gyfer gwaddol y Gemau: 'Dylunio ar gyfer Gwaddol - penseiri a dylunwyr yn ymweld â'r Parc Olympaidd@ .