Lleoliad Newydd Sbon
beth sydd ei angen i greu lleoliad newydd sbon?
Adnoddau Cit Adeiladu ODA sydd ar gael:
- Cynlluniau pensaer ar gyfer dau leoliad.
Cynllun o'r Parc Olympaidd
Cynllun Olympaidd VEL 02 - 1767.14kb
Cymharwch a chyferbynwch ddyluniadau dau o'r lleoliadau yn y Parc Olympaidd. Maent yn ymchwilio i:
- Pa benderfyniadau wnaethpwyd gan y pensaer i adlewyrchu natur y chwaraeon?
- Pa ddeunyddiau a ddewiswyd ac ym mhle maent wedi cael eu defnyddio?
- Sut mae dyluniad y lleoliad yn bodloni meini prawf cynaliadwyedd?
- Pa nodweddion sy'n golygu bod y lleoliad yn un da ar gyfer defnyddwyr gwahanol; er enghraifft, athletwyr Olympaidd a Pharalympaidd, hyfforddwyr, gwylwyr a'r wasg?
Canlyniad
Sgrifennwch adroddiad byr lle maent yn crynhoi'r meini prawf y tybiant sy'n bwysig ar gyfer dyluniad lleoliadau'n y Parc Olympaidd. Trafodwch pa is-benawdau fyddai orau i'w cynnwys, er enghraifft:
- cefnogi athletwyr sy'n gwthio tu hwnt i'w gorau glas ac yn sefydlu recordiau newydd.
- cyrraedd targedau cynaliadwyedd.
- rhoi profiad bythgofiadwy i wylwyr.
Estyniad
- Edrychwch ar y rhestr ganlynol o werthoedd dylunio oedd yn anghenion craidd pob lleoliad. Allwch chi weithio allan beth yw ystyr pob gwerth? (Atebion mewn bachau). Nawr rhowch un enghraifft o sut mae pob gwerth craidd wedi cael eu bodloni yn nyluniad un o'r lleoliadau.
Gwerthoedd Dylunio:
- Cyfnewid (sicrhau bod y dyluniad yn darparu gwaddol hyfyw).
- Defnydd (sicrhau bod y lleoliad yn llwyddiannus, cynhwysol, saff a diogel).
- Delwedd (cyflenwi dyluniadau gyda dyfeisgarwch, creadigrwydd a rhagoriaeth).
- Cymdeithasol (dyluniadau'n atgyfnerthu hunaniaeth gymdeithasol, dyluniad cynhwysol ac yn annog balchder dinesig).
- Diwylliannol (sbarduno ysbrydoliaeth a theimlad o bwysigrwydd lle).
- Amgylchedd (hyrwyddo cyfiawnder a bioamrywiaeth, isafu defnyddio adnoddau a'r effaith ar newid yn yr hinsawdd).
Ar ôl y Gemau
- Ymchwiliwch i'r nodweddion dylunio sy'n caniatau addasu'r lleoliad ar gyfer defnydd amgen ar ôl y Gemau. Er enghraifft, seddi dros-dro yn y Ganolfan Chwaraeon Dŵr ac unedau modwlar yn yr IBC/MPC.













