• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Heriau Creadigol

Heriau Creadigol

Dyluniwch leoliad ar gyfer camp newydd Olympaidd neu Baralympaidd.

Eich her gyntaf

Dychmygwch bod camp nas cynhwyswyd o'r blaen yn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn awr i'w chynnwys. Mae'r lleoliad i'w leoli yn y Parc Olympaidd. Bydd angen i chi ymchwilio i'r gamp a chyflwyno meini prawf dylunio mewn perthynas â'r gwerthoedd dylunio a llunio brîff dylunio.

Lluniwch ddyluniadau a'u gwerthuso yn ôl y meini prawf a'u haddasu.

Gwnewch fodel wrth raddfa a chynllun amlinellol o sut y'i gwireddir.

Eich ail her Celf gyhoeddus yn y Parc Olympaidd

Boris Johnson, Maer Llundain: 'Rhan o waddol mwyaf Gemau 2012 fydd y Parc Olympaidd, man glas ysblennydd ar gyfer Dwyrain Llundain. Bydd rhaglen gelf flaengar yr ODA nid yn unig yn gwella'r ardal ac yn rhoi iddi hunaniaeth gref, ond hefyd yn chwarae rôl bwysig trwy ddenu Llundeinwyr ac ymwelwyr am amser maith wedi'r Gemau gan gefnogi ei hadfywiad.'

Dysgwch am gelf gyhoeddus a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer y Parc Olympaidd.

Dyma dair enghraifft:

Cerflunwaith RUN .

Dyluniad pont 1 .

Dyluniad pont 2 .

Lluniwch arddangosfa o ffeithiau a nodweddion o ddiddordeb i chi. Dyluniwch ddrafft ar gyfer celf gyhoeddus y credwch chi fydd yn cyfrannu i'r gwaddol trwy wella'r ardal a denu Llundeinwyr ac ymwelwyr.