• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Cyfathrebu - Bwydo'r Byd â Gwybodaeth

Cyfathrebu - Bwydo'r Byd â Gwybodaeth

Mae ysgrifennu cyhoeddiad i'r wasg yn ffordd dda o ddosbarthu'ch gwaith mewn ffurf ysgrifenedig

Adnoddau Cit Adeiladu ODA sydd ar gael

Canlyniad:

  • Defnyddiwch yr wybodaeth yng Nghit Adeiladu'r ODA i ysgrifennu cyhoeddiad i'r wasg sy'n hysbysu'r cyhoedd am ddatblygu'r Parcdiroedd. Cofiwch fod y ffeithiau'n bwysig iawn. Dylid ateb y pwyntiau penodol isod fel rhan o'ch ymateb.

Y Parcdiroedd:

Dyma sut y creodd yr ODA barc y gall y gymuned ei ddefnyddio ar ôl y Gemau.

(Mae i ran deheuol y Parc awyrgylch gŵyl gyda gerddi ar lannau'r afon, marchnadoedd, digwyddiadau, caffis a bariau. Mae'r rhan ogleddol yn fan cyhoeddus tawelach ac yn gynefin i gannoedd o rywogaethau sy'n bodoli eisoes a rhai prin.)

Sicrhaodd yr ODA fod y coed a blanwyd yn addas i'r ardal.

(Dewiswyd y coed yn ofalus i sicrhau eu bod yn addas i'r dyfodol o ran newid yn yr hinsawdd. Ar y cyfan maent yn rywogaethau cynhenid megis onnen, gwernen, helygen, bedwen, collen, ceiriosen, poplysen, planwydden Llundain a phisgwydden.)

Mae'r Parcdiroedd yn hygyrch i bawb oherwydd y mesuriadau canlynol.

(Mae graddiant y llwybrau yn hygyrch i bawb ac mae golygfeydd o'r lleoliadau a'r tirnodau yn yr ardal amgylchynol yn cael eu cynnal.)

Bydd y Parcdiroedd yn isafu ôl troed carbon a'r effaith ar newid yn yr hinsawdd yn y ffyrdd canlynol.

(Mae yna erwau o fannau gwyrdd a ddyluniwyd i leihau'r risg o lifogydd yn nyffryn yr afon ac i gyfoethogi bioamrywiaeth Lower Lea Vallley.)

Estyniad

  • Dychmygwch fod gennych frîff amlinellol i greu parcdiroedd newydd o gwmpas y Parc Olympaidd i'w ddefnyddio gan y gymuned ar ôl y Gemau. Gwnewch gynlluniau ar gyfer datblygu'r safle hwn. Rydych eisiau gwarchod cynefinoedd bregus planhigion ac anifeiliaid, isafu'r risg o lifogydd i'r ardaloedd preswyl newydd a chynnwys gweithgareddau i'r teulu.