Bodloni'r Brîff
Cymerwch arnoch eich bod yn dîm dylunio a phrofi i gleient bod eich syniadau'n cyfarfod y brîff dylunio.
Adnoddau Cit Adeiladu ODA sydd ar gael:
- The Venues.
- Cynllun o'r Parc Olympaidd
- Sustainability at the heart of the Games- 'from brown to green'.
- Fideo am gynaliadwyedd .
Gweithiwch mewn grwp bychan i ganfod rhagor am nodweddion dylunio penodol y tri lleoliad. Ymatebwch i'r cwestiynau isod a osodir fel ceisiadau gan gleient i bensaer arfaethedig. Canfyddwch sut y gweithredwyd ar y ceisiadau hyn yn Lleoliadau Llundain 2012 trwy ddarllen yr wybodaeth am y Lleoliad. Rhoddwyd atebion cryno mewn bachau.
Canlyniad
Dylai pob grŵp ganfod yr atebion i'r tair set o gwestiynau. Yna gofynnwch i bob grŵp gymryd arnynt eu bod yn dîm dylunio sydd ar fin cyflwyno eu cynigion i'r cleient. Mae gennych dri munud i berswadio'r cleient bod eich dyluniad yn bodloni'r brîff. Cofiwch ddwyn sylw at nodweddion 'arloesol' y dyluniad ac i ychwanegu eich syniadau dyfeisgar eu hun.
Felodrom
Rydym eisiau lleoliad newydd sbon ar gyfer seiclo trac. Dylai'r amodau fod yn ffafriol ar gyfer amseroedd cyflym. Rydym eisiau lle i hyd at 6,000 o wylwyr yn ystod y Gemau. Mae'r nodweddion arbennig yma i'w cynnwys os gwelwch yn dda:
1. A allwch chi roi to ysgafn ar y Felodrom fydd yn adlewyrchu geometreg y trac?
(Llwyddir i wneud hyn gan ddefnyddio'r strwythur rhwyd wifrau crymedd dwbl ysgafn.)
2. Sut allwn ni wneud y defnydd gorau o olau dydd yn y stadiwm a chael awyr iach yn dod i mewn?
(Trwy osod y goleuadau to mewn mannau strategol a chaniatau awyriad naturiol drwy agoriadau yn y cladin coed allanol.)
3. Hoffem alluogi gwylwyr y tu allan i'r Lleoliad weld i mewn iddo - ac i'r gwylwyr y tu allan gael golygfa o'r Parc Olympaidd. Sut ellir llwyddo i gyflawni hyn?
(Trwy godi wal wydr 360-gradd.)
Canolfan Chwaraeon Dŵr
Mae'n rhaid i'r Ganolfan ddarparu pyllau ar gyfer nofio, deifio a chynhesu. Bydd yn cael ei leoli mewn man amlwg yn y Parc ac rydym eisiau creu argraff.
1. Rydym eisiau i'r to adlewyrchu siap ton. Sut ydych am ei gynnal a chreu'r effaith?
(Bydd y to 2,800 tunnell yn gorffwys ar ddau gynhalydd concrid yn unig ym mhen gogleddol y lleoliad a wal unigol yn y pen deheuol.)
2. Yn amlwg bydd y Ganolfan Chwaraeon Dŵr angen llawer o ddŵr - ond sut allwn isafu'r gwastraff?
(Bydd dŵr pwll yn cael ei ailddefnyddio i fflysio toiledau'r lleoliad.)
Y Stadiwm Olympaidd
Mae hwn yn stadiwm i ymffrostio ynddo a rhaid iddo gael y 'waw' ffactor. Rydym yn awyddus i ddangos i'r byd ein bod wedi adeiladu stadiwm ysblenydd ac wedi cyrraedd ein targedau cynaliadwyedd. Ymdriniwch â'r cwestiynau arbennig hyn os gwelwch yn dda:
1. Rydym yn meddwl am sut y gellir defnyddio'r Stadiwm Olympaidd ar ôl y Gemau. Rydym eisiau cynhwysedd gwylwyr mawr ar gyfer y Gemau - ond y posibilrwydd o leihau'r cynhwysedd yn y dyfodol. Sut ellir llwyddo i gyflawni hyn?
(Mae yna 25,000 o seddi parhaol yn yr haen isaf a haen uchaf ysgafn o ddur a choncrid yn dal 55,000 o wylwyr ychwanegol. Gellir datgymalu'r haen uchaf ar ôl y Gemau.)
2. Sut allwn ni atal colomennod rhag nythu yn y Stadiwm?
(Mae hebog yn hedfan o gwmpas ac yn eu herlid i ffwrdd.)
3. Ym mhle allwn ni ddefnyddio deunyddiau wedi eu hailgylchu?
(Er enghraifft, defnyddiwyd concrid mâl wedi'i ailgylchu yn y gwaith tir a phibellau nwy wedi'u hailgylchu yn strwythur cynnal y to.)
Estyniad
Darllenwch yr wybodaeth 'Cynaliadwyaeth wrth galon y Gemau' a gwylio'r ffilm a geir ar frig y dudalen hon.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol am wybodaeth ychwanegol am
Paratowch fwrdd stori ar gyfer rhaglen ddogfen newydd 60 eiliad ar thema cynaliadwyedd. Beth yw'r prif negeseuon rydych eisiau eu cyfleu? Pa ddelweddau fyddwch chi'n eu defnyddio i gefnogi'ch dadleuon a phwy fyddech chi'n ei ddewis i 'gyflwyno' y ffilm?













