Tri gweithgaredd drama sy'n dathlu Taith Gyfnewid y Fflam Olympaidd trwy archwilio themâu heddwch, undod a chyfeillgarwch ac sy'n y diwedd yn creu cyflwyniad grymus.
1. Tri'n dod yn un
- Rhowch wahoddiad i fyfyrwyr gymryd rhan mewn darn o ddrama i ddathlu Taith Gyfnewid y Fflam Olympaidd. Rhannwch y myfyrwyr yn dri grŵp fydd yn cynrychioli heddwch, undod neu gyfeillgarwch,
- Dylai un neu ddau gyfranogwr ar y tro ddod at ei gilydd o'r tri grŵp i gyfathrebu negeseuon pwysig am Daith Gyfnewid y Fflam a beth yw ei hystyr. Mae'r 'dod ynghyd' yma yn ffordd dda i'r myfyrwyr weithio â lle a symudiad. Gellid defnyddio offerynnau cerddorol neu drac sain hefyd, gan ddangos tri sŵn unigol yn dod at ei gilydd fel un.
Rhoi neges glir
Yng nghamau cynllunio'r ddrama, gallai'r myfyrwyr feddwl am
- Wreiddiau hynafol Taith Gyfnewid y Fflam
- Cynrychioli rhai o adegau cofiadwy'r Fflam Olympaidd a Thaith Gyfnewid y Fflam yn yr oes fodern fel fframiau unigol wedi eu rhewi neu fel ffotograffau sy'n 'dod yn fyw'.
- Y profiad o fod yn Gludwr y Fflam yn 2012. Sut effaith fydd y digwyddiad yn ei gael ar y bobl a'r cymunedu y bydd yn mynd trwyddynt? Darllenwch stori am ddiwrnod ym mywyd Cludwr y Fflam i gael ychydig o ysbrydoliaeth.
Creu eich cyflwyniad
- Cyn creu'r cyflwyniad terfynol, rhowch gynnig ar rai gemau byrfyfyrio ynglŷn â'r daith gyfenwid. Mae Grŵp 1 yn dechrau byrfyfyrio ynglŷn â thema Taith Gyfnewid y Fflam, yna pan ddywedwch "Pasiwch y Fflam", maent yn rhewi, a symud at y grŵp nesaf.
Perfformio'r ddrama
- Ystyriwch y gynulleidfa a'r lleoliad ar gyfer y cyflwyniad. A ydych am weithio yn eich dosbarth eich hun, gyda plant iau neu gyda grwpiau cymunedol y tu allan i'r ysgol?
- Allech chi drefnu grwpiau i greu posteri hyrwyddo, ffilmio'r sioe, a gohebu ac ysgrifennu datganiad i'r wasg?
2. Ysgrifennu creadigol am Daith Gyfnewid y Fflam
Anogwch y myfyrwyr i ysgrifennu stori fer gyda thri chynhwysyn hanfodol:
1. Mae'n rhaid i'r stori gynnwys un o'r lleoliadau ar lwybr Taith Gyfnewid y Fflam. Ewch i ganfod rhestr gyflawn o'r lleoliadau.
2. Mae'n rhaid i'r stori gynnwys y Fflam Olympaidd ar ryw bwynt.
3. Mae'n rhaid i un o'r Gwerthoedd Olympaidd - parch, rhagoriaeth neu gyfeillgarwch - fod yn llinyn neu'n thema.
Plotiau taith gyfnewid - rhowch gynnig ar ymarferion cynhesu i gynhyrchu syniadau, dechreuwch blot stori a'i phasio ymlaen.
Y panel beirniadu
Anogwch y myfyrwyr i hyrwyddo'r stori fer fel cystadleuaeth ysgrifennu creadigol a sefydlu eu panel beiriaid eu hunain.
Yn ddelfrydol, dylai cyfarfod cyntaf y panel beirniadu sefydlu set o feini prawf ar gyfer beirniadu'r storiau.
A ydych am wahodd unrhyw un lleol i fod yn rhan o'r panel beirniadu? A fyddent yn darllen pob stori neu restr fer derfynol yn unig?
Pa wobr fydd yn cael ei chynnig i'r storiau buddugol - allai'ch papur newydd lleol gyhoeddi'r enillwyr? Efallai bod yna dlws ysgol neu wobr penodol y gellid ei rhoi yn wobr? Cofiwch bŵer tri - a fydd yna dri o fedalau'n wobrau, aur, arian ac efydd?
3. Ar eich marciau, barod....ysgrifennwch!
Sefydlwch ddigwyddiad barddoniaeth ynglŷn â'r ras gyfnewid er mwyn creu tair baled gymunedol neu gerddi stori i ddathlu Taith Gyfnewid y Fflam Olympaidd.
Beth yw baled?
Cerdd naratif yw baled, weithiau'n cael ei hysgrifennu'n gymunedol, ar batrwm penillion pedair llinell. Mae'r baledi mwyaf poblogaidd yn defnyddio patrwm odli a b a b.
Byddai unrhyw ddull o farddoniaeth sy'n adrodd stori yn briodol ar gyfer y gweithgaredd hwn, er ei bod yn syniad da penderfynu ar faint a strwythur penillion cyn dechrau.
Canfod ysbrydoliaeth
Rhannwch enghreifftiau o faledi gyda'ch myfyrwyr. Mae chwedlau Robin Hood, geiriau Bob Dylan, Baled Frankie and Johnny a La Belle Dame Sans Merci gan Keats yn ffynonellau da o ysbrydoliaeth.
Sefydlu cyfnewid baledi
Y syniad yw bod tri grŵp yn gweithio i greu tair baled ar yr un pryd trwy ddechrau grŵp o benillion a'u trosglwyddo i'r tîm nesaf . . . cyfnewid baledi!
Mae gan bob un o'r tri grŵp amser penodol, o leiaf 30 munud, i greu eu pedwar pennil ar y testunau isod ac yna'n symud ymlaen.
Beth am gysylltu ag ysgolion eraill yn eich ardal a chyd-ysgrifennu gyda hwy?
Penillion 1-4: Gwreiddiau Taith Gyfnewid y Fflam
Penillion 5-8: Mae'r Fflam yn cyrraedd eich 'dinas deg' - beth sydd gan eich tref neu leoliad i'w gynnig?
Penillion 9-12: Ym mhle fydd y Fflam yn dod i ben ei thaith? Meddyliwch am ei thynged mawreddog yn Seremoni Agor y Gemau Olympaidd.













