• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Tri o dameidiau pum munud

Gadewch i'ch myfyrwyr gael eu hysbrydoli gan Daith Gyfnewid y Fflam Olympaidd gyda'r 'tameidiau pum munud' yma - delfrydol ar gyfer dechrau neu ddiwedd gwersi.

Rhowch gynnig ar y gweithgareddau hyn sy'n ymwneud â Thaith Gyfnewid y Fflam Olympaidd. Ni ddylent gymryd mwy na phum munud yr un..

1. Uam raginchw uen argananygoch. Neu rhowch gynnig ar anagramau.

Sawl un o'r anagramau hyn o leoliadau ar lwybr Taith Gyfnewid y Fflam Olympaidd allwch chi eu datrys mewn tri munud?

UEDDNE (Dundee)
LWPLER (Lerpwl)
CIPSHIW (Ipswich)
NGUYESRE (Guernsey)
BATSELF (Belfast)
SRELICEET (Leicester)
GALNEI (Ealing)
WASELTNEC (Newcastle)
TONUNAT (Taunton)
THPROSOUMT (Portsmouth)

2. 'Rwy'n enwebu...' Gofynnwch i'r myfyrwyr enwi eu harwr personol y maent yn credu y gellid ei (h)enwebu fel Cludwr y Fflam. Mae ganddynt 30 eiliad yn unig i ddarbwyllo'r dosbarth.

3. Posau geiriau: Mae'n cymryd tri cham i fynd o'r gair 'run' i 'win' gan newid ond un llythyren ym mhob cam e.e. run, sun, sin a win. Heriwch y myfyrwyr i newid 'Torch' i 'Perth' mewn tri cham yn unig (Torch, porch, perch, Perth). Sawl cam mae'n ei gymryd i fynd o 'race' i 'gold'? (race, rack, sack, sick, silk, silt, gilt, gold). Allan nhw greu posau geiriau eraill gaan ddefnyddio geiriau sy'n gysylltirdig â Thaith Gyfnewid y Fflam Olympaidd, er enghraifft Fflam, Taith, golau ac yn y blaen?