• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Ffurfiwch bwyllgor Bydd Barod

Ffurfiwch bwyllgor Bydd Barod

Pobl ifanc yn trafod

Fel pob ton Fecsicanaidd, gorau po fwyaf sy'n cymryd rhan!

Felly byddwch eisiau cynnwys cymaint â phosibl o fyfyrwyr yn eich prosiect brosiect rhwydwaith Bydd Barod prosiect.

I wneud hyn, byddwch angen ychydig o drefn. Felly, beth am sefydlu pwyllgor i gydlynu'r gwaith?

Rhannu'r pwysau gwaith

Yn eich tîm byddwch angen...

Cadeirydd - fydd yn gyfrifol am arwain cyfarfodydd. Mae hwn yn sicrhau bod pawb yn cadw at yr agenda, bod pawb sydd eisiau lleisio barn yn cael gwneud hynny, y gwneir penderfyniadau, a bod cyfarfodydd yn dechrau ac yn gorffen yn brydlon. Weithiau mae pwyllgorau yn cylchdroi'r rôl yma, fel bod pawb yn cael tro.

Ysgrifennydd - sy'n sicrhau bod gan bawb y wybodaeth angenrheidiol. Hwn sy'n rhoi gwybod i bawb am ba bryd a lle y cynhelir cyfarfodydd ac yn dosbarthu'r agenda. Gall hefyd helpu'r cadeirydd i ysgrifennu'r agenda. Yn ystod cyfarfodydd mae'n gwneud y cofnodion, wedyn yn eu hysgrifennu, yn eu dosbarthu, ac yn ffeilio copi. Gall ysgrifennydd hefyd ysgrifennu a derbyn llythyrau ac e-bostiau ar ran y pwyllgor.

Aelodau - mae y rhain eisiau bod yn rhan o'r gwaith hefyd Maet yn hapus i drafod syniadau, helpu i wneud penderfyniadau a chymryd cyfrifoldeb am dasgau penodol, er enghraifft, gwneud arolygon, cyflwyniadau, gofyn am ganiatâd etc. Gall fod yn syniad da i sicrhau bod gennych amrywiaeth dda o aelodau.

Swyddogaethau eraill...

Cydlynydd Cyhoeddusrwydd - sy'n sicrhau bod cymaint â phosibl o bobl yn gwybod beth sy'n digwydd. Gall hyn olygu ysgrifennu ar flog yr ysgol, cynllunio taflenni a phosteri, ysgrifennu at lywodraethwyr yr ysgol a siarad â'r wasg leol.

Aelod Anrhydeddus - a all fod yn athletwr, artist, actor neu gerddor lleol neu arweinydd cymdeithas a all fynychu efallai un neu ddau o gyfarfodydd y flwyddyn a rhoi eu cefnogaeth.

Siaradwyr gwadd - a allant fod yn ffordd wych o gael gwybodaeth. Er enghraifft, os dewiswch wneud murlun Llundain 2012, fe allwch wahodd artist lleol sydd wedi gwneud murlun o'r blaen i ddod atoch i siarad am 10 munud ar sut i roi cychwyn arni.

Beth yw agenda?

Yn syml, rhestr o bwyntiau i'w trafod mewn cyfarfod (gydag amseriad wrth ochr pob un). Fel hyn gallwch sicrhau eich bod yn ymdrin â phopeth.

Er enghraifft:

  1. Diolch am ddod (1 mun)
  2. Cyflwyno unrhyw aelodau newydd (2 fun)
  3. Ymddiheuriadau (2 fun)
  4. Pwynt 1 i'w drafod (10 mun)
  5. Pwynt 2 i'w drafod (15 mun)
  6. Pwynt 3 i'w drafod (5 mun)
  7. Unrhyw fater arall (5 mun)
  8. Dyddiad y cyfarfod nesaf (2 fun)

Cynghorion i'r Cadeirydd

  • Cyflwynwch pob eitem ar yr agenda yn fras.
  • Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod pobl yn gwybod am yr hyn yr ydych yn siarad amdano! Weithiau ni fyddan nhw, felly eglurwch unrhyw faterion cyfredol.
  • Cadwch lygaid ar yr amser bob amser, ac os yw'n angenrheidiol symudwch bethau'n eu blaenau, er enghraifft, 'Rwyf am roi tri munud arall i'r drafodaeth hon ac yna dod â hi i ben.'
  • Os yw rhywun yn crwydro oddi wrth yr agenda, peidiwch â chael eich tynnu gydag o, dywedwch er enghraifft, "Mae hwnna'n bwynt pwysig, gawn ni ddod yn ôl ato nes ymlaen?"
  • Rhowch daw ar sgwrsio preifat cyn gynted â'u bod yn dechrau!
  • Sicrhewch bod pob barn yn cael ei chlywed - yn cynnwys y rhai nad ydych efallai'n cytuno â hwy.

Beth yw cofnodion?

Y rhain yw nodiadau ar gyfarfod - beth yr ydych wedi penderfynu ei wneud, pwy sydd am ei wneud, erbyn pryd etc. Maen nhw'n atgoffa pobl o'r hyn a gytunwyd arno, ac hefyd yn rhoi gwybod beth sy'n digwydd i'r aelodau nad oedd yn gallu mynychu cyfarfod.

Beth sy'n gwneud cyfarfod da?

Mae angen tipyn o drefn ar gyfarfod da, felly gosodwch ychydig o reolau a gofalwch bod pob aelod yn cael copi ac yn cadw atynt. Er enghraifft:

  1. 'Siaradwch drwy'r cadeirydd' - mae hyn yn golygu rhoi eich llaw i fyny a disgwyl eich tro.
  2. Peidiwch â siarad ymysg eich gilydd, na thorri ar draws eraill.
  3. Cadwch at yr agenda. Dylid trafod unrhyw bwyntiau eraill dan 'unrhyw faterion eraill'.
  4. Cadwch unrhyw gyfraniadau'n fyr ac i bwrpas.

Ac i ffwrdd â chi!