Y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd
I gyrraedd y brig mewn unrhyw faes - nid yn unig chwaraeon - mae angen penderfyniad, dewrder ac yn aml iawn llond trol neu ddwy o ysbrydoliaeth. Y ffordd yr ydym yn meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn sy'n gwneud yr hyn ydym fel unigolion.
Gyda'i gilydd, mae dynion a merched sy'n ymdrechu i gystadlu'n y Gemau Olympaidd neu Baralympaidd yn ceisio byw yn ôl y Gwerthoedd hyn:
Gwerthoedd Olympaidd
- cyfeillgarwch
- rhagoriaeth
- parch
Gwerthoedd Paralympaidd
- ysbrydoliaeth
- phenderfyniad
- dewrder
- cydraddoldeb
Mae'n ymddangos i ni bod y Gwerthoedd hyn yn berthasol i bawb - nid athletwyr o'r radd flaenaf yn unig. Ychydig iawn ohonom fyddai'n dadlau er enghraifft, nad yw cydraddoldeb yn beth da, neu nad yw cyfeillgarwch yn ein helpu i deimlo'n dda amdanom ein hunain ac eraill. A'r gwir yw - ni fyddai neb ohonom yn mynd yn bell iawn heb ychydig o benderfyniad o dro i dro.
Gan feddwl am eich bywyd eich hun, sut ydych yn tybio y gallai un neu fwy o'r Gwerthoedd hyn eich helpu nawr?
Os oedd penderfynu yn anodd i chi, pa rai o'r Gwerthoedd hyn allai eich helpu i benderfynu?













