Y Parc Olympaidd ar gamera
Meddyliwch am y dymchwel, y clirio a'r glanhau a ddigwyddodd yn y Parc Olympaidd. Pa un ddaeth gyntaf, a beth a gyflawnwyd gan bob cam?
Adnoddau Cit Adeiladu ODA sydd ar gael:
- Delweddau o stadiymau ar wahanol gamau datblygiad
- Diwrnod dymchwel fideo o 2007 - o adeiladau tal yn cael eu dymchwel i'r llawr ac rydym yn dysgu bod 90% o'r deunyddiau i gael eu hailddefnyddio ar y safle
- Hedfan dros y Parc Olympaidd 2009 yn dangos delweddau da o'r safle cyn-adeiladu ac yn ystod y camau cynharaf
Ewch i Lundain 2012 am y delweddau diweddaraf trwy'r gwe-gamera a'r teithiau rhithwir
Trafodwch y camau adeiladu, o ddymchwel, clirio a glanhau'r safle a chychwyn adeiladu.
Gosodwch y gweithdrefnau mewn trefn gronolegol. Gallwch lawrlwytho delweddau i ddarlunio'r llinell amser, a dylai hefyd gynnwys crynodeb o gamau'r datblygu.
Canlyniad
Llinell amser wedi ei darlunio yn crynhoi camau datblygu adeiladu un o'r lleoliadau.
Estyniad
Allwch chi ganfod rhagor am y broses o olchi pridd ? Beth sy'n digwydd a pham fod hyn yn bwysig?













