• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Her Greadigol 1 - Gallwch chi hefyd ddylunio stadiwm

Her Greadigol 1 - Gallwch chi hefyd ddylunio stadiwm

Argraff arlunydd o du mewn i Stadiwm Olympaidd Llundain 2012

Dyluniwch eich stadiwm chi!

Adnoddau Cit Adeiladu ODA sydd ar gael

Edrychwch ar y delweddau o'r lleoliadau a dewis yr un sy'n eich ysbrydoli ac sydd o ddiddordeb i chi. Gallwch:

  • Ystyried ei bwrpas a'i swyddogaeth.
  • Ddisgrifio sut mae'n edrych, a beth sy'n arbennig amdano.
  • Canfod ym mhle y'i lleolir a pham.
  • Meddwl am faterion amgylcheddol a chynaliadwyedd.

Yna lluniadu cynllun a golygon ochr yn ôl graddfa gan ddefnyddio'r confensiynau lluniadu a welir yn lluniadau'r pensaer.
Gwneud model o'r stadiwm gorffenedig naill ai mewn 3D neu gan ddefnyddio meddalwedd modelu.
Dangoswch o leiaf un wedd o'r gwaith peirianyddol a ddefnyddiwyd e.e. adeiladu, deunyddiau, siap, grymoedd/cynnal pwysau. Gallent ganolbwyntio ar un rhan o'r strwythur yn unig; er enghraifft, y to (os oes un arno) seddi, ardaloedd gwasanaethu etc. A fydd yn cael ei adeiladu ar y safle neu a fydd yn cael ei ragffurfio a'i roi at ei gilydd ar y safle?