• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Gwych a Gwyrdd

Gwych a Gwyrdd

Pobl ifanc yn dysgu am rai o'r creiriau ddarganfyddwyd ar safle adeiladu'r Parc Olympaidd yn nwyrain Llundain

Beth yw ystyr cynaliadwyedd i chi? Dysgwch sut y mae'n berthnasol i'r Parc Olympaidd.

Adnoddau Cit Adeiladu ODA sydd ar gael

Trafodwch ystyr cynaliadwyedd trwy edrych ar ‘ Sustainability at the heart of the Games ’ . Beth yw barn pawb ar baham fod hyn yn nod mor bwysig i'r Gemau?

Dysgwch ragor am ymrwymiad Llundain 2012 i gyflenwi'r 'gemau gwyrddaf erioed', a gofynnwch iddynt edrych ar y ffilmiau a darllen yr adroddiadau ar y camau sydd wedi eu cymryd i hyrwyddo cynaliadwyedd.

Canlyniad

Paratowch eich ffeithiau neu 'benawdau am gynaliadwyedd' ar gyfer cyfweliad radio byr pan fydd gennycht funud yn unig i berswadio cynulleidfa bod trefnwyr Gemau Llundain 2012 yn cyrraedd targedau cynaliadwyedd pob un o'r pum thema: newid yn yr hinsawdd, gwastraff, bioamrywiaeth, cynhwysedd a byw'n iach.

Estyniad

Parc i'r dyfodol - cynlluniwch barcdir sydd o fudd i'r gymuned leol ac sy'n gwarchod y cynefinoedd bywyd gwyllt. Lluniwch eich cynlluniau eich hun neu seiliwch eich syniadau ar gynllun amlinellol y Parc Olympaidd.