Mae popeth o ddylunio i greu yn cael ei gynnwys sy'n galluogi myfyrwyr i ddefnyddio eu creadigrwydd i gwblhau'r gweithgareddau
Lloegr
CA3
Cysyniadau Allweddol:
1.1 Dylunio a chreu
a. Deall fod gan ddylunio a chreu ddimensiynau aesthetig, amgylcheddol, technegol, economaidd, moesol a chymdeithasol a bod hynny'n effeithio ar y byd.
b. Defnyddio gwybodaeth am ddeunyddiau a phrosesau cynhyrchu i ddylunio cynhyrchion a chreu atebion ymarferol sy'n berthnasol ac i bwrpas.
c. Deall bod cynhyrchion a systemau yn effeithio ar safon bywyd.
1.3 Creadigrwydd
a. Gwneud cysylltiadau rhwng egwyrddorion dylunio da, atebion presennol a gwybodaeth dechnolegol i ddatblygu cynhyrchion a phrosesau dyfeisgar.
b. Ailddadansoddi a defnyddio dysgu mewn cyd-destunau dylunio newydd a chyfathrebu syniadau mewn ffyrdd newydd neu annisgwyl.
c. Archwilio ac arbrofi gyda syniadau, deunyddiau, technolegau a thechnegau.
1.4 Gwerthuso beirniadol
a. Dadansoddi cynhyrchion ac atebion presennol i hwyluso dylunio a chreu.
b. Gwerthuso anghenion defnyddwyr a chyd-destun defnyddio cynhyrchion i hwyluso dylunio a chreu.
c. Archwilio effeithiau syniadau, penderfyniadau ynglŷn â dylunio a datblygiadau technolegol a sut y mae'r rhain yn darparu cyfleoedd o ran atebion dylunio.
Prosesau Allweddol
a. cynhyrchu, datblygu, modelu a chyfathrebu syniadau mewn amryw o ffyrdd, gan ddefnyddio strategaethau priodol
b. ymateb yn greadigol i friffiau, datblygu eu cynigion eu hunain a chynhyrchu manylebau ar gyfer cynhyrchion
c. cymhwyso eu gwybodaeth a dealltwriaeth am ystod o ddeunyddiau, cynhwysion a thechnolegau er mwyn dylunio a chreu eu cynhyrchion
ch. defnyddio'u dealltwriaeth o ddylunio gan eraill i hwyluso dylunio eu hunain
d. cynllunio a threfnu gweithgareddau ac yna siapio, ffurfio, cymysgu, gosod a gorffen deunyddiau, rhannau a chynhwysion
dd. gwerthuso pa offer llaw a pheirianyddol, teclynnau a chyfleusterau cynllunio/cynhyrchu gyda chymorth cyfrifiadur (CAD/CAM) sydd fwyaf priodol i'w defnyddio
e. datrys problemau technegol
f. meddwl yn feirniadol wrth werthuso as addasu eu syniadau a'u cynigion er mwyn gwella cynhyrchion trwy gydol eu datblygiad a'u cynhyrchu.
Yr Alban
Technolegau
Datblygiadau technolegol mewn cymdeithas
O fy astudiaethau o ddatblygiad cynaliadwy, gallaf feddwl am oblygiadau a materion moesol sy'n codi o ddatblygiadau technolegol o ran unigolion a chymdeithasau.
TCH 3-02a
Gallaf archwilio ystod o ddeunyddiau, prosesau neu ddyluniadau yn fy nghymuned leol er mwyn ystyried a thrafod eu heffeithiau amgylcheddol, cymdeithasol ac eonomaidd, a thrafod y gost tymor hir bosibl i'r amgylchedd yn Yr Alban a thu hwnt.
TCH 4-02a
Cyd-destunau crefft, dylunio, peirianneg a graffeg ar gyfer datblygu sgiliau a gwybodaeth dechnolegol.
Trwy ddefnyddio fy ngwybodaeth a fy sgiliau mewn gwyddoniaeth a mathemateg, gallaf beiriannu gwrthrychau 3D sy'n dangos cryfhau, trosglwyddo egni a symudiad.
TCH 2-12a / TCH 3-12a
Rwyf wedi ennill hyder a medrusrwydd o ran defnyddio deunyddiau, teclynnau, offer, meddalwedd neu dechnoleg reoli, a gallaf ddefnyddio sgiliau arbenigol i greu cynhyrchion safonol.
TCH 3-13a
Gallaf ymarfer a chymhwyso ystod o dechnegau a phrosesau paratoi i gyhnyrchu amrywiaeth o eitemau mewn coed, metel, plastig neu ddeunyddiau eraill, gan ddangos dychymyg a chreadigrwydd, a sylweddoli'r angen i gynilo adnoddau.
TCH 3-13b
Trwy ddefnyddio strategaethau datrys problemau a dangos creadigrwydd mewn her ddylunio, gallaf gynllunio, datblygu, trefnu a gwerthuso cynhyrchu eitemau sy'n ateb gofynion yn y cartref neu ym myd gwaith.
TCH 3-14a
Ar ôl archwilio technegau graffigol a'r ffyrdd o'u cymhwyso, gallaf ddewis, trefnu a chynrychioli gwybodaeth a syniadau yn raffigol.
TCH 3-15a
Rwyf yn cael fy ysbrydoli gan ffurfiau naturiol ac amgylchedd adeiladau i ddatblygu syniad creadigol y gellid ei wireddu gan ddefnyddio cynhyrchu gyda chymorth cyfrifiaduron.
TCH 4-13a
Gallaf gymhwyso sgiliau meddwl yn feirniadol wrth werthuso ansawdd ac effeithlonrwydd fy nghynhyrchion neu systemau fy hun neu rai pobl eraill.
TCH 4-14b
Gallaf archwilio nodweddion a swyddogaeth deunyddiau, offer, meddalwedd neu dechnoleg reoli er mwyn sefydlu eu haddasrwydd ar gyfer tasg yn y cartref neu ym myd gwaith.
TCH 4-14c
Trwy archwilio a thrafod nodweddion cynhyrchion bob dydd, rwyf yn ennill ymwybyddiaeth o'r ffactorau sy'n dylanwadu ar ddylunio a gallaf werthuso sut y mae'r cynhrchion hyn yn ateb gofynion y defnyddiwr.
TCH 4-14d
Wrth ddatblygu neu gyfoethogi cynrychioliadau o syniadau neu eitemau, â llaw neu yn electroneg, gallaf gymhwyso fy ngwybodaeth am theori lliwiau gan gyfiawnhau'r dewisiadau a wnaf.
TCH 4-15b
Gallaf ddefnyddio meddalwedd briodol yn hyderus i gynrychioli fy syniadau a fy eitemau yn y byd o fy nghwpas, gan ddangos creadigrwydd, dychymyg neu ddyfeisgarwch.
TCH 4-15c
Cymru
CA3
Dylunio
Dylai disgyblion gael cyfleoedd i:
- ddefnyddio brifiau dylunio penodol, a phan fo'n briodol, ddatblygu rhai eu hunain i grisialu eu syniadau am gynhyrchion
- adnabod a defnyddio ffynonellau gwybodaeth priodol i helpu cynhyrchu a datblygu eu syniadau am gynhyrchion
- bod yn greadigol a dyfeisgar wrth feddwl pan yn creu syniadau am gynhyrchion
- adnabod a chymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth am faterion technolegol, cynaliadwyedd ac iechyd a diogelwch er mwyn datblygu syniadau am gynhyrchion sy'n gyraeddadwy ac ymarferol
- datblygu manyleb ar gyfer eu cynnyrch
- archwilio, datblygu a chyfathrebu syniadau dylunio mewn amryw o ffyrdd, yn cynnwys anodiad, lluniadau a chynllunio gyda chymorth cyfrifiadur
- modelu a choethi eu syniadau dylunio mewn ffurfiau 3D neu brototeipio bwyd lle fo'n briodol
- gwerthuso, coethi ac addasu eu syniadau dylunio wrth iddynt ddatblygu mewn perthynas ag aestheteg, gofynion synhwyraidd, ffyrdd o fyw'n iach, ffwythiant, diogelwch, dibynadwyedd, nodweddion deunyddiau, cynhwysion, rhannau, cynaliadwyedd a chost
- gwerthuso eu syniadau dylunio terfynol yn ôl eu manyleb/rysait cychwynol.
Cynhyrchu
Dylai disgyblion gael cyfleoedd i:
- ddatblygu'r sgiliau i ddewis a gweithio gydag ystod o ddeunyddiau a chynhwysion i greu cynhyrchion mewn amryw o gyd-destunau
- defnyddio offer/teclynnau llaw neu beirianyddol, ac ystod o offer a phrosesau, i gymysgu, siapio, ffurfio ac uno deunyddiau a chynhwysion
- bod yn greadigol wrth ganfod ffyrdd amgen o greu os nad yw'r ymdrech gyntaf yn gyraeddadwy
- datblygu technegau i sicrhau cysondeb a chywirdeb yn cynnwys defnyddio cynllunio gyda chymorth cyfrifiaduron
- profi a gwerthuso eu cynnyrch yn ôl eu manyleb wreiddiol
Deunyddiau a thecstiliau gwrthiannol
- dysgu am nodweddion a phriodoleddau deunyddiau a chymhwyso'r wybodaeth a'r dealltwriaeth hwn wrth ddylunio a chreu cynhyrchion
- cynnal profion ar ddeunyddiau i benderfynu ar eu haddasrwydd ar gyfer y defnydd aa fwriedir
- cyfuno a phrosesu deunyddiau er mwyn creu nodweddion gwell a phriodoleddau aesthetig dymunol
- deall y gall llwyth achosi methiant yn neunydd strwythurau trwy blygu, troi ac ymestyn
- bod yn ymwybodol o ddatblygiadau cyfredol mewn technoleg deunydddiau
- ystyried materion cynaliadwyedd wrth ddewis a defnyddio deunyddiau
Gogledd Iwerddon
CA3
Technoleg a Dylunio
Gwybodaeth, Dealltwriaeth a Sgiliau
Design - adnabod problemau; ymchwilio, cynhyrchu, datblygu, modelu a gwerthuso cynigion dylunio; ystyried ffurf, ffwythiant a diogelwch;
Cyfathrebu - defnyddio braslunio â llaw a thechnegau lluniadu ffurfiol ac offer TGC (yn cynnwys modelu 3D)
Cynhyrchu - dewis a defnyddio ddeunyddiau i bwrpas; defnydd diogel o ystod o offer a phrosesau sy'n briodol i'r deunyddiau, dangos cywirdeb ac ansawdd o ran y cynnyrch terfynol
Datblygu disgyblion fel cyfranwyr mewn cymdeithas
Archwilio dyfeisiadau a dyluniadau technegol sydd wedi ateb gofyniad cymdeithasol yn gost-effeithiol.
Dylunio atebion cost-effeithiol a phriodol i fodloni anghenion penodol grwpiau lleol a byd eang amrywiol.
Archwilio sut mae datblygiadau mewn Technoleg a Dylunio wedi newid y ffordd y gallwn gael mynediad at y cyfryngau
Datblygu disgyblion fel cyfranwyr i'r Economi a'r Amgylchedd
Ymchwilio i sut y bydd y sgiliau a ddatblygwyd trwy Dechnloeg a Dylunio yn ddefnyddiol mewn ystod eang o yrfaoedd.
Ceisio atebion dylunio gan ddefnyddio deunyddiau a ffynonellau ynni sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd.
Adnabod anghenion cynnyrch a cheisio atebion dylunio cynaliadwy cytûn mewn cyd-destun awyr agored/dan do.













