Rhowch gynnig ar dri gweithgaredd ysgrifennu creadigol ynglŷn â Thaith Gyfnewid Fflam Olympaidd 2012!
Dewiswch un o'r tri thestun ysgrifennu yma. Yn y gweithgaredd cyntaf, mae'r myfyrwyr yn mynegi cyffro Taith Gyfnewid y Fflam trwy gyfrwng newyddiaduraeth. Maent yn ysgrifennu rhesymau dros enwebu Cludwyr y Fflam posibl yn yr ail weithgaredd, ac yn olaf, maent yn rhoi eu hunain 'yn esgidiau' Clududd y Fflam ac yn dychmygu eu teimladau wrth i'w cyfle hwy 'i ddisgleirio' agosau.
1. Bydd Barod am Daith Gyfnewid y Fflam
Ym 1948 cyrhaeddodd y Dortsh Olympaidd Dover yn hwyr yn y dydd ar 28 Gorffennaf. Ymgasglodd torf frwdfrydig o 50,000 i'w chroesawu ac fe'i dilynwyd ar ei thaith dros nos i Wembley gan bum milltir o gerbydau.
Mae cyfweliadau gyda Chludwyr y Fflam 1948 yn datgelu eu brwdfrydedd wrth iddynt gario'r Fflam drwy dorfeydd o bobl ar hyd y llwybr.
Gofynnwch i'r myfyrwyr ddychmygu'r olygfa yn Llundain yn 1948 wrth i Daith Gyfnewid y Fflam gyrraedd pen ei thaith yn Stadiwm orlawn Wembley.
Yn 2012, bydd 8000 o gludwyr y fflam yn cario'r Fflam o gwmpas Prydain dros gyfnod o 70 diwrnod.
Trafodwch y gwahaniaethau rhwng Prydain ym 1948 yng nghyfnod y 'Gemau Caledi' a'r Gemau Olympaidd sydd ar y gorwel yn 2012. Er bod llawer wedi newid dros y blynyddoedd, bydd y cyffro a'r brwdfrydedd a gynhyrchir gan daith Gyfnewid y Fflam yn debyg iawn.
Y gweithgaredd yw ysgrifennu adroddiadau newyddion am Daith Gyfnewid y Fflam, y cyntaf ym 1948 a'r ail yn 2012.
Dylai adroddiadau'r myfyrwyr gael penawdau addas a chyfleu cyffro'r cymunedau wrth i'r Fflam fynd heibio ar ei thaith i Lundain. Anogwch hwy i gynnwys manylion am y cyfnod sy'n dangos y tebygrwydd a'r gwahaniaeth rhwng y Gemau Llundain hyn.
2. Cludwyr y Fflam....pasiwch hi ymlaen....
- Siaradwch â'r myfyrwyr ynglŷn â pham bod pobl wedi cael eu henwebu fel Cludwyr y Fflam. Gallwch wylio'r fideo fer 'Pwy fyddwch chi yn ei enwebu am gyfle i ddisgleirio?'
Er bod y dyddiad cau ar gyfer enwebu wedi bod, mae'r fideo yn rhoi syniad da ynglŷn â pha resymau oedd gan bobl dros enwebu.
Gofynnwch i'r myfyrwyr weithio mewn grwpiau o dri ac i bob un feddwl am rywun maent yn ei adnabod y maent yn credu fyddai'n ymgeisydd teilwng i gario'r Fflam, ac i ysgrifennu paragraff byr yn nodi eu rhesymau. Pan fo hyn wedi ei gwblhau, maent yn plygu eu papur ac yn ei basio ymlaen i'r person nesaf yn y grŵp. Nawr gofynnwch iddynt ysgrifennu paragraff arall am Gludwr y Fflam arall posibl. Dylent ailadrodd y broses unwaith eto, fel bod pob grŵp o dri wedi nodi naw o bobl y maent yn eu parchu ddigon i'w hystyried yn deilwng o gario'r Fflam. Gofynnwch iddynt rannu eu gwaith ysgrifennu gyda'r grŵp ac i nodi rhinweddau a gwerthoedd personol tebyg yn y rhai gaiff eu henwebu, er enghraifft, dewrder, caredigrwydd, penderfyniad etc.
3. Yn eu hesgidiau
Yn y gweithgaredd hwn mae'r myfyrwyr yn rhoi eu hunain 'yn esgidiau' Cludwr y Fflam' yn yr ychydig funudau sy'n arwain at yr adeg y bydd y Fflam yn cael ei drosglwyddo iddynt. Gofynnwch iddynt ysgrifennu adroddiad byr gan ddisgrifio'u teimladau wrth iddynt edrych ymlaen at y 'foment'. Sut maent yn profi'r foment hon trwy eu holl synhwyrau? Beth maent yn ei weld, ei glywed, ei deimlo a'i arogli? A yw curiad eu calon yn codi, a ydynt yn boeth neu'n oer, ac a yw eu hanadlu'n esmwyth neu'n fas?













