Mae myfyrwyr yn archwilio themâu Taith Gyfnewid y Fflam trwy gyfrwng celfyddydau creadigol yn cynnwys dwns, argraffu ac archwilio a datblygu dyluniadau a ysbrydolwyd gan Dortsh Gemau Olympaidd Llundain 2012.
1. Dawns mewn tair rhan
Gofynnwch i'r myfyrwyr weithio mewn grwpiau o dri o ddawnswyr. Efallai eich bod hefyd eisiau cerddorion i weithio mewn grwpiau o dri i ddarparu cyfeiliant taro trwy gydol y ddawns.
Rhan un: Cynnau defodol y Fflam yn Olympia ger Teml Hera. Mae'r brif offeiriades yn cynnau'r dortsh gan ddefnyddio drych parabolig sy'n crynhoi golau'r haul.
Rhan dau: Taith Gyfnewid y Fflam ar ei llwybr o gwmpas Prydain. Y Fflam yn vael ei throsglwyddo o un Cludydd y Fflam i'r llall.
Rhan tri: Mae'r Cludydd y Fflam olaf yn trosglwyddo'r Fflam i'r Grochan yn ystod y Seremoni Agor.
Efallai y bydd y myfyrwyr yn mwynhau gwylio fideo o gân Taith Gyfnewid y Fflam: Spinnin’ for 2012. Trafodwch sut mae'r symudiadau dawns yn ychwanegu at effaith gyffredinol y gân.
2. Argraffu: y Fflam
Dechreuwch trwy edrych ar ddyluniadau'r Dortsh Olympaidd yn y gorffennol a gofyn i'r myfyrwyr ddweud pa ddyluniadau maen nhw'n eu hoffi a pham. Hefyd, gofynnwch iddynt ymchwilio i ystod o gynrychiolaethau graffig o'r Dortsh a'r Fflam.
Nawr gallant ddrafftio dyluniadau fydd yn cael eu datblygu trwy argraffu. Gallai hyn fod yn dorlun leino clasurol neu brint sgrîn, neu ddefnyddio pecyn meddalwedd.
Dewiswch ganlyniad priodol, er enghraifft, defnyddiwch y ddelwedd luosog i ddylunio darn o bapur wal pwrpasol neu neu bapur wal ar gyfer sgrîn cyfrifiadur.
3. 'Grym tri' yn cael ei fynegi trwy ddyluniad y Dortsh.
Eglurodd Edward Barber, un o ddylunwyr y Dortsh Olympaidd, pam fod y siap trionglaidd yn rhan annatod o'r dyluniad:
'Roedd yna nifer o bethau oedd yn dylanwadu ar ein penderfyniad i gael siap trionglaidd i'r Dortsh. Y peth cyntaf yw'r Arwyddair Olympaidd, sef 'cyflymach, uwch, cryfach'. Dyma'r trydydd tro i'r Gemau ddod i Lundain: 1908, 1948 a 2012. Hefyd, o safbwynt ymarferol, mae'n llawer haws gafael mewn ffurf trionglaidd ac mae'n rhoi gwell grip o lawer.'
Rhowch gynnig ar y gweithgareddau hyn sydd hefyd yn archwilio potensial y nodweddion a ddefnyddiwyd yn nyluniad y Dortsh Olympaidd:
- Gwnewch luniad wrth raddfa o ddyluniad o Dortsh Olympaidd sy'n cynnwys triongl cyfochrol fel nodwedd o'r dyluniad. Gellir defnyddio'r triongl fel nodwedd strwythurol neu addurnol. Estynwch hyn trwy herio'r myfyrwyr i wneud lluniad arall wrth raddfa sy'n cynnwys trionglau isosgeles.
- Mae'r Dortsh Olympaidd wedi cael ei gwneud o aloi alwminiwm arbennig a ddatblygwyd ar gyfer y diwydiant awyrofod a cherbydau. Mae'r aloi yn ysgafn ond yn gryf, gyda nodweddion gwrth-wres arbennig. Gofynnwch i'r myfyrwyr restru gwrthrychau a ddefnyddir yn y cartref sydd â nodweddion gwrth-wres, er enghraifft handlenni padelli, matiau diod, drws gwydr popty etc. Heriwch hwy i ddylunio daliwr canwyllau ar gyfer y 21ain ganrif fyddai'n wrth-wres a sefydlog. Pa ddeunyddiau ffyddent yn eu defnyddio a pham?
- Heriwch y myfyrwyr i brofi'r ddamcaniaeth mai model o drawst pont gyda'r nifer fwyaf o drionglau yn y strwythur fydd yn cynnal y pwysau trymaf. Estynwch drwy ddyfeisio prawf teg sy'n archwilio cryfder tri o ddeunyddiau gwahanol.













