Gadewch i'r myfyrwyr gael eu hysbrydoli gan Daith Gyfnewid y Fflam gyda'r 'tameidiau pum munud' hyn.
Tri o dameidiau pum munud cyffrous!
- Mae Taith Gyfnewid y Fflam yn cychwyn yn Land's End ar 18 Mai 2012 ac yn gorffen yn y Stadiwm Olympaidd ar 27 Gorffennaf. Gofynnwch i'r myfyrwyr gynllunio 10 diwrnod o'r daith 70 diwrnod fyddai'n cynnwys ymweliad o fewn 10 milltir i'w cartrefi.
- Gofynnwch i'r myfyrwyr feddwl am eu harwyr personol eu hunain, er enghraifft, pobl yn eu cymuned sydd wedi eu hysbrydoli mewn rhyw ffordd. Gofynnwch i wirfoddolwyr roi 30 eiliad o araith enwebu gan roi rhesymau pan y dylid ystyried eu henwebai fel Cludydd y Fflam.
- Darllenwch am hanes Taith Gyfnewid y Fflam Olympaidd ac yna chwarae'r cwis gwir/gau sydyn hwn:
- Yn ystod yr hen Gemau, roedd fflam sanctaidd yn llosgi'n barhaus ar allor y dduwies Juno. (Gau - enw'r dduwies oess Hera.)
- Yn dilyn taith gyfnewid fer y gwmpas Gwlad Groeg, caiff y Fflam ei throsglwyddo i'r Ddinas Gynnal newydd mewn seremoni arall yn stadiwm Panathenaiko yn Athen. (Gwir)
- Mae'r Cludydd y Fflam olaf yn cynnau crochan yn Nheml Hera. (Gau - caiff y grochan ei chynnau yn Seremoni Agor y Gemau Olympaidd an y Stadiwm Olympaidd.)













