Ffurfiwch bwyllgor Bydd Barod
Cymerwch yr awenau!
Rydym eisiau i chi, y myfyrwyr, gymryd yr awenau yr holl ffordd fel bod y daith at 2012 nid yn unig yn dod yn gyfnod pan gynhaliodd Llundain y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd, ond hefyd yn gyfnod yn eich bywyd chi y gallwch edrych yn ôl arno a bod yn falch ohono.
Rhwydwaith Bydd Barod yw eich cyfle chi i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'ch ysgol a phawb ynddi, ac efallai hyd yn oed i'ch cymuned leol.
Pam na wnewch chi ffurfio pwyllgor rhwydwaith Bydd Barod arbennig i oruchwylio'r cais?
Sicrhewch fod eich ysgol yn y ras!
Gweithio fel tîm
Cynghorion gorau ar gynnal pwyllgor rhwydwaith Bydd Barod da
Mae gweithio fel tîm bob amser yn anodd, ond dyma rai canllawiau i'ch cadw ar y llwybr:
- Pennwch amser cyfarfod neu cyflawnwch dasg a dal ati. Pennwch amser a diwrnod a rhowch flaenoriaeth iddo. Cytn gynted ag y daw un absenoldeb yn ddau absenoldeb, mae'n anodd iawn dal i fyny. Os yw tîm yn mynd i weithio, yna rhaid iddo weithio gyda'i gilydd yn rheolaidd.
- Parchwch rôl a barn pobl eraill Efallai bod gennych syniadau da ar gyfer aelodau eraill y pwyllgor, ond gofalwch nad ydych yn ceisio rheoli popeth.
- Mae pawb yr un mor bwysig. Gofalwch bod pob aelod yn ymwneud i'r un graddau, bod pawb yn cael mynegi ei hun. Os gwneir penderfyniadau heb i bob aelod o'r pwyllgor fod yn bresennol, yna sicrhewch fod gennych ffordd (e-bost, cofnodion y cyfarfod neu defnyddiwch y blog) o roi gwybod y cyfan iddyn nhw.
- Dechreuwch o'r dechrau. Cofiwch mai'n ara' deg mae dal iâr. Dechreuwch wrth edrych ar sefyllfa bresennol eich ysgol. Ym mha ffordd mae hi'n adlewyrchu rhai neu'r oll o'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd? Ydych chi wedi cymryd rhan mewn unrhyw brosiectau neu ddigwyddiadau arbennig a allai gael eu cynnwys yn eich cais?
- Pa dasgau a syniadau sy'n bosibl eu cyflawni? Pa bethau ellid rhoi cychwyn arnyn nhw ar unwaith a pha rai fyddai angen ychydig o waith sylfaen yn gyntaf? Sicrhewch fod gan bawb dasg i'w gyflawni cyn i chi gyfarfod y tro nesaf.
- Gwnewch gynlluniau. Ystyriwch eich syniadau mawr, a gweithiwch am yn ôl. Cyn y gallan nhw ddigwydd, beth sydd angen digwydd gyntaf? A beth sydd angen digwydd cyn hynny? Gwnewch gynlluniau tymor byr, canolig a hir a gofalwch bod pawb yn eu deall yn eglur. Blaenoriaethwch.
- Rhannwch jôc...neu fwyd. Nid oes rheswm o gwbl na all gwaith caled fod yn hwyl, yn enwedig pan ydych yn gweithio gyda ffrindiau. Sicrhewch bod yr adegau yr ydych yn cyfarfod â'ch gilydd yn hwyl ac nid yn fwrn.













